Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Hydref 2017
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4366
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 287KB) Gweld fel HTML (98KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i rannu barn y deisebwyr, gan gynnwys yr awgrym y dylai fod yn ofynnol i deithiau ddechrau neu ddod i ben yn yr ardal y mae'r cerbyd a'r gyrrwr wedi'u trwyddedu ynddi, a gofyn am y diweddaraf am y farn mewn perthynas â thrwyddedu trawsffiniol ac isgontractio a ddaeth i law drwy'r ymgynghoriad diweddar.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu effaith deddfwriaeth 2013 a'i pherthnasedd i brosiectau o'r math a ddisgrifir gan y deisebydd, a phryd y bydd yn gwneud hynny.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a fydd yn ystyried cynnig y deisebydd i Lywodraeth Cymru gyflwyno gofyniad i sganio carcasau anifeiliaid anwes sy'n cael eu canfod a hysbysu perchnogion mewn contractau newydd ar gyfer gwasanaethau gwastraff, neu roi canllawiau pellach i awdurdodau lleol ar y mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i dynnu sylw at bryderon y deisebwyr a gofyn am ymateb i'w galwad i Lywodraeth Cymru ddychwelyd i'r polisi blaenorol o ddyrannu ei chyllideb ei hun i ddatblygu gorsafoedd newydd yng Nghymru.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn:
· a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhannu'r data y mae wedi'u casglu ynghylch ysgolion â chynlluniau asbestos, a sut y bydd yn gwneud hynny; ac
· am ddiweddariad ynghylch pryd y bydd y Gweithgor Rheoli Asbestos mewn Ysgolion yn cynnal trafodaethau i drafod datblygiadau diweddar yn Lloegr a'u perthnasedd i ysgolion yng Nghymru.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y deisebydd wedi mynegi boddhad eisoes a'r ffaith na chafwyd unrhyw ymatebion pellach yn ddiweddar.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd, a'r ymateb cynhwysfawr a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn yr ystyriaeth fanwl o arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac o ystyried y boddhad a fynegwyd gan y deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd i ofyn am ei ymateb i'r pryderon diweddaraf a fynegwyd gan y deisebydd, a gofyn am fanylion ynghylch pa mor aml y defnyddiwyd y cerbyd ambiwlans dynodedig i drosglwyddo menywod a phlant ar frys o Ysbyty Llwynhelyg i Ysbyty Glangwili.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am gadarnhad na fydd cerflun arfaethedig y Cylch Haearn bellach yn cael ei gynnwys fel rhan o'r buddsoddiad arfaethedig yng Nghastell y Fflint, a holi am yr anghysondeb rhwng cynnwys ei lythyr at y Pwyllgor ar 20 Medi a'r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ar 7 Medi.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb yng ngoleuni cais y deisebwyr am ddiweddariad, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am ragor o fanylion am yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad terfyn cyflymder.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.
Nodwyd y papur.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor grynodeb o’i ystyriaeth o'r ddeiseb yn y gorffennol a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.